External Affairs Officer (Devolved Nations) / Swyddog Materion Allanol (Gwledydd Datganoledig)

  • Newport
  • National Trust
SummaryYou’ll support the External Affairs team and colleagues across Wales to build strong external relationships with elected representatives and key stakeholders, support our policy and advocacy work, and provide external affairs advice and support to our property and consultancy teams.Crynodeb Byddwch yn cefnogi’r tîm Materion Allanol a chydweithwyr ledled Cymru i feithrin perthnasau allanol cryf gyda chynrychiolwyr etholedig a rhanddeiliaid allweddol, cefnogi ein gwaith polisi ac adfocatiaeth, a darparu cyngor a chefnogaeth materion allanol i’n timau eiddo ac ymgynghoriaeth. What it's like to work hereThe National Trust Consultancy is the home to specialists in every field of our work. A national consultancy, where resources are shared across disciplines and boundaries, it’s proving to be a great repository of skills, talent and experience. The diversity and quality of expertise within the Consultancy will enable our properties and places to benefit from an extraordinary range of creative and innovative thinking, as well as deep expertise in all matters relating to our twin purpose of caring for the nation’s heritage and landscapes, and making these accessible to all. As this role covers the whole of Wales, your contractual place of work will be the nearest National Trust consultancy office to your home. Our hybrid working policy means you can balance office and home working with site visits and meetings at other National Trust places. We’ll talk about this in more detail at interview, but you should expect to be at a National Trust site for 40–60% of your working week.Sut beth yw gweithio yma?  Mae Gwasanaeth Ymgynghori'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gartref i arbenigwyr ym mhob maes o'n gwaith. Gwasanaeth ymgynghori cenedlaethol, lle rhennir adnoddau ar draws disgyblaethau a ffiniau, sy'n profi i fod yn gronfa werth chweil o sgiliau, doniau a phrofiadau. Bydd amrywiaeth ac ansawdd yr arbenigedd o fewn y Gwasanaeth Ymgynghori yn galluogi ein heiddo a lleoedd i elwa o ystod ryfeddol o feddylfryd creadigol ac arloesol, yn ogystal ag arbenigedd dwfn ym mhob mater yn ymwneud â'n diben dwbl o ofalu am dreftadaeth a thirweddau'r genedl, a gwneud y rhain yn hygyrch i bawb. Gan fod y rôl hon yn golygu gweithio dros Gymru gyfan, bydd eich gweithle cytundebol yn y swyddfa ymgynghori Ymddiriedolaeth Genedlaethol sydd agosaf at eich cartref. Golyga ein polisi gweithio hybrid eich bod yn gallu cydbwyso gweithio yn y swyddfa gyda gweithio gartref, gydag ymweliadau a chyfarfodydd safle mewn llefydd Ymddiriedolaeth Genedlaethol eraill. Byddwn yn siarad am hyn mewn mwy o fanylder yn y cyfweliad, ond gallech ddisgwyl bod ar safle Ymddiriedolaeth Genedlaethol am 40-60% o’ch wythnos waith. What you'll be doingAs part of the External Affairs team in Wales you'll be instrumental in shaping how National Trust Cymru is seen in Wales and the wider world. You'll support the External Affairs Consultants for North and South Wales in building relationships with politicians, key stakeholders, and decision makers in Wales, support with coordination of site visits, stakeholder meetings and communications, and monitoring of our engagement. You'll have the opportunity to engage with National Trust Cymru’s campaign and advocacy work by providing support in the development of policy briefings and helping with the organisation and planning of events. You'll be highly organised and structured in your work – managing and recording our relationships with key politicians, stakeholders and decision-makers as well as developing effective processes to share knowledge and information from the Trust to the external world. An experienced communicator, in writing and in person, you'll be an effective champion for the National Trust and our cause, representing the Trust to external audiences. You'll contribute to internal processes including providing an external affairs newsletter internally and externally and develop good relationships across the Trust, including with colleagues based in Northern Ireland and in the Whole Trust External Affairs Team. Please also read the full role profile attached to this advert.Beth fyddwch chi’n ei wneud?  Fel rhan o'r tîm Materion Allanol yng Nghymru, byddwch yn allweddol yn llywio sut mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn cael ei gweld yng Nghymru a ledled y byd. Byddwch yn cefnogi’r Ymgynghorwyr Materion Allanol ar gyfer Gogledd a De Cymru i feithrin perthnasau â gwleidyddion, rhanddeiliaid allweddol a gwneuthurwyr penderfyniadau yng Nghymru, yn cefnogi gyda chydlynu ymweliadau safle a chyfathrebiadau rhanddeiliaid, gyda chydlyniad cyfarfodydd rhanddeiliaid, a monitro ein hymgysylltiad. Bydd gennych y cyfle i ymgysylltu ag ymgyrch a gwaith adfocatiaeth Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru drwy ddarparu cymorth i ddatblygu briffiau polisi a helpu gyda threfnu a chynllunio digwyddiadau. Byddwch yn ymdrin â'ch gwaith mewn modd hynod drefnus a strwythuredig – yn rheoli ac yn cofnodi ein cysylltiadau â gwleidyddion allweddol, rhanddeiliaid ac unigolion sy'n gwneud penderfyniadau, yn ogystal â datblygu prosesau effeithiol er mwyn rhannu gwybodaeth gan yr Ymddiriedolaeth gyda'r byd allanol. Byddwch yn gyfathrebwr profiadol, yn ysgrifenedig ac ar lafar, ac yn hyrwyddwr effeithiol ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'n hachos, gan gynrychioli'r Ymddiriedolaeth i gynulleidfaoedd allanol. Byddwch yn cyfrannu at brosesau mewnol gan gynnwys darparu cylchlythyr materion allanol yn fewnol ac yn allanol, a datblygu pac yn datblygu cysylltiad da ledled yr Ymddiriedaeth, gan gynnwys gyda chydweithwyr yng Ngogledd Iwerddon a Thîm Materion Allanol yr Ymddiriedolaeth Gyfan. Darllenwch hefyd y proffil rôl llawn sydd ynghlwm wrth yr hysbyseb honWho we're looking forWe’re looking for a highly motivated external affairs professional with an understanding and experience of the political and stakeholder landscape in Wales. The ability to communicate in Welsh is beneficial for this role. Further support will be provided for continued development of Welsh language skills. Please complete the attached Welsh Language Competency Assessment and upload this alongside your CV. In your application please provide details of how you meet the following minimum criteria: Excellent verbal and written communication and interpersonal skills Understanding of the stakeholder landscape in Wales Knowledge and experience of the political landscape in Wales Experience in external partnership working, policy or advocacy Excellent organisational skills and ability to work at pace and prioritise workloads Experience of preparing and producing presentations and communications materials Ability to build strong collaborative working relationships with internal and external stakeholders Am bwy ydym yn chwilio Rydym yn chwilio am unigolyn materion allanol proffesiynol hynod frwdfrydig gyda dealltwriaeth a phrofiad o’r dirwedd wleidyddol a rhanddeiliaid yng Nghymru. Mae'r gallu i gyfathrebu'n Gymraeg yn ddymunol iawn ar gyfer y swydd hon. Darperir cefnogaeth bellach ar gyfer datblygu sgiliau iaith Gymraeg yn barhaus. Cwblhewch yr Asesiad Cymhwysedd Iaith Gymraeg ynghlwm a'i uwchlwytho ochr yn ochr â'ch CV. Yn eich cais, rhowch fanylion am sut ydych chi’n bodloni’r meini prawf canlynol: Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig a sgiliau rhyngbersonol Dealltwriaeth am y dirwedd randdeiliaid yng Nghymru. Gwybodaeth a phrofiad o dirwedd wleidyddol Cymru Profiad o weithio yn y maes eirioli, polisi neu weithio mewn partneriaeth allanol Sgiliau trefnu rhagorol a’r gallu i weithio'n gyflym a blaenoriaethu Profiad o baratoi cyflwyniadau a deunyddiau cyfathrebu a/neu eirioli Y gallu i feithrin cysylltiadau cydweithredol cryf gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol The packageThe National Trust has the motto ‘For everyone, for ever’ at its heart. We’re working hard to create an inclusive culture, where everyone feels they belong. It’s important that our people reflect and represent the diversity of the communities and audiences we serve. We welcome and value difference, so when we say we’re for everyone, we want everyone to be welcome in our teams too.•Substantial pension scheme of up to 10% basic salary•Free entry to National Trust places for you, a guest and your children (under 18)•Tax-free childcare scheme•Rental deposit loan scheme•Season ticket loan•EV car lease scheme •Perks at work discounts such as gym memberships, shopping discount codes, cinema discounts•Holiday allowance up to 32 days relating to length of service, plus holiday purchase scheme, subject to meeting minimum criteria.•Flexible working whenever possible•Employee assistance programme•Free parking at most Trust places Y pecyn Yr arwyddair sydd wrth wraidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw 'I bawb, am byth'. Rydym yn gweithio'n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae'n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth y cymunedau a'r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb deimlo'n gartrefol yn ein timau hefyd. Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol Mynediad am ddim i eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i chi, gwestai a'ch plant (dan 18 oed) Cynllun gofal plant di-dreth  Cynllun benthyciad blaendal rhent Benthyciad tocyn tymor Gostyngiadau buddion y gweithle, h.y. aelodaeth gampfa, codau gostyngiad siopa, gostyngiadau ar gyfer y sinema  Lwfans gwyliau hyd at 32 diwrnod mewn perthynas â hyd y gwasanaeth, yn ogystal â chynllun prynu gwyliau, yn amodol ar fodloni meini prawf gofynnol. Oriau gweithio hyblyg lle bynnag y bo'n bosibl Rhaglen cynorthwyo cyflogai Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau Cyngor ariannol annibynnol